Hanfod RhAG ers y cychwyn yw cefnogi rhieni a gwarchodwyr wrth iddynt fynd ar y daith gyda’u plant drwy Addysg Gymraeg a thu hwnt. Mae’r cyfnod yn cychwyn cyn geni’r plentyn, gyda’r gwaith hyrwyddo o fewn y sector cyn geni a'r blynyddoedd cynnar, ac fe gydweithiwn gyda rhanddeiliaid yn gadarnhaol ac yn rhagweithiol i sicrhau bod mynediad at Addysg Gymraeg ar gael i bawb sydd yn ei ddymuno.
Drwy’r gwaith hwn yr ydym hefyd yn gweithio er mwyn sicrhau bod mwy o ysgolion Cymraeg yn agor ar hyd a lled Cymru fel bod y galw’n codi. Cydweithiwn yn agos gydag ystod eang o randdeiliaid - yn ysgolion, Awdurdodau Lleol, Mentrau Iaith, consortia addysg, Urdd Gobaith Cymru, Mudiad Meithrin, darpariaethau gofal preifat i enwi dim ond rhai.
Gweithiwn hefyd gyda rhieni'n uniongyrchol i'w cefnogi pan fo achosion penodol yn codi. Gwnawn hyn drwy gynghori a chynrychioli uniongyrchol.
Mae rhwydwaith o wirfoddolwyr ar draws Cymru, yn rhieni, yn ofalwyr ac yn gyfeillion i Addysg Gymraeg, yn cynrychioli’r mudiad drwy amrywiaeth o bwyllgorau a fforymau ac yn bwydo yn ôl i bwyllgor rheoli cenedlaethol. Mae croeso i unrhyw un ymuno â ni fel mudiad ac rydym yn ddiolchgar i unrhyw wirfoddolwyr sydd yn fodlon ein cynorthwyo gydag achosion penodol mewn ardaloedd ar hyd a lled Cymru.
How does RhAG work?
RhAG has always been about supporting parents and guardians as they go on the journey with their children through Welsh Medium Education and beyond. The period begins before the birth of the child, with promotional work within the antenatal and early years sector, and we work with stakeholders positively and proactively to ensure that access to Welsh Medium Education is available to all who desires it.
Through this work we are also working to ensure that more Welsh-medium schools open across Wales so that demand rises. We work closely with a wide range of stakeholders - in schools, Local Authorities, Mentrau Iaith, education consortia, Urdd Gobaith Cymru, Mudiad Meithrin, private care providers to name but a few.
We also work with parents directly to support them when specific cases arise. We do this through direct advice and representation.
A network of volunteers across Wales, parents, carers and friends of Welsh Medium Education, represents the organisation through a variety of committees and forums and feeds back to a national management committee. Anyone is welcome to join us as an organisation and we are grateful to any volunteers who are willing to assist us with specific causes in areas across Wales.
Ymgyrchoedd | Campaigns
7.2021 Castell Nedd a Phort Talbot | Neath and Port talbot
Mae Mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg yn gofyn i drigolion ardal Cwm Tawe i gyflwyno gwrthwynebiad ffurfiol i hysbysiad statudol i sefydlu ysgol fawr Saesneg ar lawr y cwm yng nghanol tref Pontardawe. Mae templed wedi ei lunio yma i chi ei lwytho a'r addasu. Cofiwch ei ddanfon at yr e-bost [email protected] cyn 14.7.2021.
Parents for Welsh Medium Education is asking residents of the Cwm Tawe area to formally object to a statutory notice to establish a large English medium school on the valley in Pontardawe town center. A template has been created here for you to download and customize. Please send it via email [email protected] before 14.7.2021.